Mae'n rhaid ichi wneud hyn ar eich dyddiad ail-ymrestru.
Ar eich dyddiad ail-ymrestru, bydd angen ichi asesu rhai staff penodol er mwyn gweld oes angen ichi eu hail-ymrestru ar eich cynllun pensiwn.
1. Darganfod pa staff ddylech chi eu cynnwys yn eich asesiad
Bydd ond angen ichi asesu rhai staff penodol ar gyfer eu hail-ymrestru
Y Staff y bydd angen ichi eu hasesu
Bydd yn rhaid ichi asesu staff:
- sydd wedi gofyn y cân nhw adael (dad-ymrestru ag) eich cynllun pensiwn
- sydd wedi gadael eich cynllun pensiwn (ymatal i fod yn rhan o'ch cynllun pensiwn) ar ôl diwedd y cyfnod dad-ymrestru.
- sydd yn dal yn aelod o'ch cynllun pensiwn - ond wedi penderfynu lleihau cyfanswm y cyfraniadau pensiwn i fod yn is na'r lefel lleiafswm
Staff na fydd yn rhaid ichi eu hasesu
Fe gewch chi ymatal rhag asesu unrhyw staff ar eich dyddiad ail-ymrestru sydd:
- yn rhan o'r cynllun pensiwn rydych chi'n ei ddefnyddio ar gyfer ymrestru awtomatig (cynllun cymwys)
- yn 21 neu ieuengach
- yn oes pensiwn gwladol (SPA) neu hŷn
- heb dderbyn dyddiad ymrestru awtomatig eto (sy'n bodloni'r gofynion o ran oedran ac enillion ar gyfer ymrestru awtomatig neu sydd wedi eu gohirio)
2. Asesu'ch Staff
Bydd yn rhaid i unrhyw aelod o staff wnaeth adael eich cynllun pensiwn ymrestru awtomatig dros 12 mis cyn eich dyddiad ail-ymrestru ac sydd:
- rhwng 22 oed ac Oedran Pensiwn Gwladol
- acsy'n ennill dros £10,000 y flwyddyn, neu £833 y mis, neu £192 yr wythnos
ymrestru i fod yn rhan o gynllun pensiwn a bydd gofyn ichi a'r aelod o staff gyfrannu tuag at y cynllun.
Yn ychwanegol i'r staff y mae'n rhaid ichi eu hail-ymrestru, gallwch ddewis ail-ymrestru unrhyw aelod o staff sydd:
- rhwng 22 oed ac Oedran Pensiwn Gwladol
- ac sy'n ennill dros £10,000 y flwyddyn, £833 y mis neu £193 yr wythnos
ac
- wnaeth ddad-ymrestru â'ch cynllun pensiwn ymrestru'n awtomatig (cymwys) yn ystod y 12 mis cyn eich dyddiad ail-ymrestru
- wnaeth dderbyn swm dirwyn i ben yn y 12 mis cyn eich dyddiad ail-ymrestru, yna wnaethan nhw adael eich gweithle ac fe gawson nhw eu hail-gyflogi gennych chi eto.
- sydd wedi rhoi rhybudd neu dderbyn rhybudd i adael eu swydd
- sydd â gwarchodaeth sylfaenol, uwch neu benodedig rhag taliadau treth ar eu cynilion pensiwn
- sy'n gyfarwyddwr i'r cyflogwr
- sy'n bartner mewn Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig sef y cyflogwr ac na chaiff ei drin ar gyfer dibenion treth incwm sy'n cydymffurfio â rheolau 'aelod cyflogedig' Cyllid a Thollau EM
Gallwch weld mwy o wybodaeth am yr eithriadau o'r ddyletswydd ail-ymrestru awtomatig a dyletswyddau eraill i gyflogwyr ar y Canllaw Manwl Rhif. 1 - Dyletswyddau Cyflogwyr a gosod terfynau'r gweithlu Canllaw manwl rhif. 1 - Dyletswyddau Cyflogwyr a diffinio'r gweithlu (PDF, 176kb, 34 tudalen).
3. Beth nesaf?
Ail-ymrestru staff ar eich cynllun pensiwn
Bydd yn rhaid ichi wneud hyn ymhen chwe wythnos o'ch dyddiad ail-ymrestru
Unwaith i chi ddarganfod pa staff sydd angen ichi eu hail-ymrestru, bydd yn rhaid ichi eu hail-ymrestru ar gynllun pensiwn yr ydych yn defnyddio ar gyfer ymrestru awtomatig a dechrau cyfrannu tuag ato. Bydd yn rhaid ichi wneud hyn ymhen chwe wythnos o'ch dyddiad ail-ymrestru.
Unwaith ichi ail-ymrestru'ch staff ar eich cynllun pensiwn, bydd angen ichi ysgrifennu atyn nhw i roi gwybod iddyn nhw. Fe wnawn ni roi gwybod ichi sut i wneud hyn yn y cam nesaf.
Os nad oes gennych chi staff i'w hail-ymrestru, bydd dal gofyn ichi gwblhau eich ail-ddatganiad cydymffurfio i roi gwybod inni sut aethoch chi ati i gyflawni eich dyletswyddau ail-ymrestru. Fe wnawn ni roi gwybod ichi sut i wneud hyn yn y cam nesaf.